Awyren Airbus A320
Roedd 16 o blant ysgol a dau athro ymhlith 150 o bobl gafodd eu lladd mewn damwain awyren yn yr Alpau yn Ffrainc bore ma.

Roedd y disgyblion, o ysgol Joseph Konig yn Haltern am See yng ngorllewin yr Almaen, yn teithio nôl adref ar ôl bod ar daith gyfnewid mewn ysgol yn Barcelona.

Credir bod dau fabi hefyd yn teithio ar yr awyren  Airbus A320 a oedd yn teithio o Barcelona i Dusseldorf.

Mae’n debyg nad oes unrhyw un wedi goroesi’r ddamwain ar ôl i’r awyren blymio i’r ddaear yn gyflym ger Digne. Roedd 144 o deithwyr ar fwrdd yr awyren a chwe aelod o’r criw.

Roedd yr awyren, sy’n berchen i gwmni Germanwings, wedi taro’r ddaear mewn ardal anghysbell ym mynyddoedd yr Alpau ac mae Canghellor yr Almaen a nifer o weinidogion Ffrainc wedi teithio i’r safle.

Yn ôl Awdurdod Awyrennau Sifil Ffrainc, nid oedd capten yr awyren wedi adrodd am unrhyw drafferthion ac roedd wedi colli cysylltiad am 10.30yb amser lleol.

Mae adroddiadau’r prynhawn ma bod blwch du’r awyren wedi cael ei ddarganfod.

Mae’r Prif Weinidog David Cameron a Dirprwy Brif Weinidog Nick Clegg wedi dweud bod eu meddyliau gyda theuluoedd y teithwyr.

Mae’r Swyddfa Dramor yn gwneud ymholiadau i ddarganfod a oedd unrhyw deithwyr o Brydain ar yr awyren. Mae’n debyg bod y rhan fwyaf o’r teithwyr yn dod o’r Almaen a Sbaen.