Mae cwpl o Gymru wedi cael eu canmol gan arbenigwr am ddatblygu app newydd i bobol sy’n dioddef o ddementia.

Mae Tom a Kathy Barham o Ruthun wedi bod yn treialu’r app Book Of You, sy’n defnyddio lluniau, fideo a cherddoriaeth i helpu pobol a dementia i gofio digwyddiadau o’r gorffennol, mewn cartrefi gofal.

Yn ôl yr Athro Bob Woods o Brifysgol Bangor mae’r ap yn cynnig gwasanaeth arloesol:

“Un o’r pethau gwych am Book Of You yw’r modd mae’n defnyddio’r cyfrwng digidol i ddod a bywyd i luniau a geiriau, byddai hynny ddim yn bosib gyda llyfr,” meddai.

“Ac wrth ychwanegu fideo a cherddoriaeth mae’r holl beth yn gwbl arbennig. ”

Profiadau

Gobaith yr ap, yn ôl Kathy Barham yw helpu defnyddwyr i adfer rhai’r o’r profiadau sy’n gyfrifol am siapio eu bywydau.

“Gallai hynny amrywio o bethau cyffredin, fel y math o gerddoriaeth oedd rhywun yn hoffi o ddydd i ddydd, i ddigwyddiadau cofiadwy ac anghyffredin, fel cwrdd ag aelod o’r teulu brenhinol neu deithio’r byd,” meddai wrth y BBC.

“Mae ymchwil yn awgrymu fod mynd ati i adrodd stori hanes yn arwain at well safon o fywyd i bobl sydd â dementia, ac yn ôl y teulu mae o hefyd yn gwella safon perthynas o fewn y teulu.”