Byron Davies AC
Mae Swyddfa Archwilio Cymry wedi amddiffyn ei hannibyniaeth yn dilyn sylwadau a waned gan Byron Davies AC heddiw, gan ddweud ei bod yn adrodd “heb ofn na ffafr”.

Y bore ma, fe wnaeth yr Aelod Cynulliad Torïaidd fynegi pryder nad oedd dau adroddiad gwleidyddol sensitif gan Swyddfa Archwilio Cymru wedi cael eu cyhoeddi.

Dywedodd Byron Davies fod un adroddiad i mewn i benderfyniad Llywodraeth Cymru i brynu Maes Awyr Caerdydd i fod i gael ei gyhoeddi ym mis Rhagfyr 2014 ac roedd yr ail adroddiad i mewn i werthu eiddo a thir yn rhad trwy Cronfa Buddsoddi Adfywio Cymru i fod i gael ei gyhoeddi ym mis Gorffennaf 2014.

Fe wnaeth Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus y Cynulliad Cenedlaethol gyfarfod bore ma i drafod ei flaen raglen waith, gan gynnwys yr amserlenni ar gyfer cyhoeddi’r adroddiadau gan Archwilydd Cyffredinol Cymru.

Clywodd y pwyllgor na fydd adroddiadau yn cael eu cyhoeddi tan yr haf – ar ôl yr etholiad cyffredinol ym mis Mai.

Meddai Swyddfa Archwilio Cymru y dylai’r adroddiad ar Gronfa Buddsoddi Adfywio Cymru gael ei gyhoeddi ym mis Gorffennaf oherwydd ei fod wedi bod yn “brosiect arbennig o gymhleth.”

Mae nhw hefyd yn rhagweld y bydd yr adroddiad ar benderfyniad Llywodraeth Cymru i brynu Maes Awyr Caerdydd, ar gwerth am arian i’r trethdalwyr, yn cael ei gyhoeddi ym mis Mehefin oherwydd eu bod nhw am aros am gwblhau y gwaith archwilio ariannol Llywodraeth Cymru ar gyfer 2012-13 cyn dechrau eu hastudiaeth.

Dylanwad gwleidyddol?

Dywedodd Byron Davies: “Gallai sinig feddwl fod gohirio cyhoeddi adroddiadau ar benderfyniadau gwario anghyfrifol Llafur tan ar ôl yr etholiad cyffredinol yn ganlyniad i ryw ddylanwad gwleidyddol dros Swyddfa Archwilio Cymru.

“Mae’n rhaid i bleidleiswyr allu gwneud dewis gwybodus ynghylch pwy maen nhw’n ymddiried gyda chyllid cyhoeddus, ac dylai pleidleiswyr ledled y DU allu gweld sut y gallai Llywodraeth Lafur wedi ei arwain gan Ed Miliband edrych.”

“Cwbwl annibynnol”

Dywedodd llefarydd ar ran Swyddfa Archwilio Cymru wrth golwg360: “Mae’r Archwilydd Cyffredinol yn gwbl annibynnol oddi wrth y Llywodraeth ac yn adrodd heb ofn na ffafr.

“Byddem yn gwrthod unrhyw awgrym fod y rhain, neu unrhyw adroddiadau eraill, yn cael eu gohirio o ganlyniad i ddylanwad neu ymyrraeth gwleidyddol yn llwyr.

“Mae Amserlenni ar gyfer cyhoeddi adroddiadau yn cael eu pennu gan ffactorau eraill, fel wnaethon ni egluro i Bwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus y Cynulliad Cenedlaethol y bore yma, lle roedd Byron Davies AC yn bresennol.”