Mae’r llywodraeth yn Ne Swdan wedi lladd hyd at 130 o wrthryfelwyr ar ôl i’r brwydro rhwng y ddwy ochr ail-gydio.
Daw wedi i’r arlywydd Salva Kiir a’i gyn-ddirprwy Riek Machar fethu a chyrraedd cytundeb yn dilyn trafodaethau heddwch diweddar, er gwaethaf pwysau rhyngwladol.
Dywedodd llefarydd bod y fyddin a’r gwrthryfelwyr wedi ymosod ar ei gilydd yn ardal yr Upper Nile.
Fe gafodd 14 o filwyr y fyddin eu lladd hefyd ac fe wnaeth rhai o’r gwrthryfelwyr ffoi tuag at dir Sudan.
Mae anghydfod wedi bod yn y wlad Affricanaidd ers 2013 gan ymledu trwy’r wlad.