Ysgol Gynradd Gymraeg Llwynderw (o wefan yr ysgol)
Ysgol Gymraeg yn Abertawe oedd un o’r ddwy gynta’ i ddefnyddio pecyn addysg newydd i ddysgu plant am beryglon benthycwyr arian diegwyddor.

Cafodd y pecyn ei lansio yn Ysgol Gynradd Gymraeg Llwynderw yn Abertawe a’r bwriad yw dysgu plant i wylio rhag ‘bleiddiaid benthyg’ a thwyllwyr credyd.

Yn ôl Uned Benthyg Arian yn Anghyfreithlon Cymru (WIMLU), cyhoeddwyr y pecyn, fe fydd yn helpu pobol ifanc ac oedolion i ddeall y peryglon ariannol sydd o’u cwmpas.

Oed cynnar

“Y gobaith yw y bydd y plant yn mynd â llawer o’r negeseuon hyn adref gyda nhw ac yn annog rhieni sy’n wynebu problemau ariannol i ofyn am help,” meddai Mark Childs, yr aelod o gabinet y Cyngor sy’n gyfrifol am Les a Dinasoedd Iach.

“Gobeithio y bydd yn eu hatal rhag mynd i drafferth yn y lle cyntaf; yn ogystal â dysgu sgiliau gwerthfawr a fydd yn eu helpu pan fyddan nhw’n  oedolion.”

Yn ôl Stephen Grey, Rheolwr Ymchwiliadau WIMLU, arian a oedd wedi ei gymryd oddi ar droseddwyr oedd yn talu am y pecynnau.