Blodau y tu allan i Ysgol Bro Morgannwg lle'r oedd Corey Price a Rhodri Miller yn ddisgyblion
Mae cwest i farwolaethau pedwar person fu farw mewn gwrthdrawiad ar yr A470 ger Aberhonddu wedi cael ei agor a’i ohirio.

Cafodd gwrandawiad byr ei gynnal yn Llys Crwner Aberdâr lle cyhoeddwyd y bydd gwrandawiad cychwynnol i’r achos yn cael ei gynnal ar 11 Mehefin.

Bu farw Alesha O’Connor, Rhodri Miller a Corey Price, y tri yn 17 oed ac o’r Barri, a Margaret Elizabeth Challis, 68, o Ferthyr Tudful yn y gwrthdrawiad nos Wener diwetha’ ac mae dyn  yn parhau i fod mewn cyflwr difrifol yn yr ysbyty.

Fe ddaeth mwy na 2,000 o bobol i wasanaeth coffa yn Y Barri neithiwr i gofio’r rhai gafodd eu lladd.