Rhodri Miller ac Alesha O'Connor
Daeth mwy na 2,000 o bobl i wasanaeth coffa yn Y Barri neithiwr i gofio’r rhai gafodd eu lladd mewn damwain ger Aberhonddu nos Wener diwethaf.

Roedd bron i 400 o bobl wedi llenwi’r eglwys yn Heol Windsor yn Y Barri gydag eraill yn sefyll y tu allan.

Bu farw Alesha O’Connor, ei chariad Rhodri Miller, a’i ffrind Corey Price, y tri yn 17 oed ac o’r Barri, mewn damwain ar yr A470 ger Storey Arms nos Wener.

Cafodd Margaret Challis, 68 oed, hefyd ei lladd yn y ddamwain.

Mae dyn yn parhau mewn cyflwr difrifol yn yr ysbyty.

Ar ol y gwasanaeth roedd teulu a chyfeillion y pedwar wedi rhyddhau balŵns tu allan i’r eglwys.