Prifysgol Aberystwyth
A hithau’n 150 o flynyddoedd ers sefydlu’r Wladfa Gymreig ym Mhatagonia eleni, mae Prifysgol Aberystwyth yn cynnig ysgoloriaeth newydd i ddathlu’r cysylltiad rhwng Aberystwyth ag Esquel yn nhalaith Chubut ym Mhatagonia.

Bydd yr ysgoloriaeth yn cael ei gynnig i un dysgwr Cymraeg o Batagonia i fynychu’r Cwrs Haf Cymraeg ym  Mhrifysgol Aberystwyth ym mis Awst eleni.

Yn 2014, roedd 268 o oedolion yn dysgu Cymraeg ym Mhatagonia.

Noddir yr ysgoloriaeth gan Swyddfa Ryngwladol Prifysgol Aberystwyth.

‘Dathlu 150 mlynedd’

Meddai Ruth Owen Lewis, Cyfarwyddwr y Swyddfa Ryngwladol: “Mae hi’n bleser gan y Swyddfa Ryngwladol i gefnogi’r ysgoloriaeth eleni.  Wrth ddathlu 150 mlynedd ers y glaniad ym Mhatagonia, cofiwn yr unigolion  hynny a fentrodd tu hwnt i ffiniau Cymru ac a oroesodd mewn amgylchiadau anodd dros ben a llwyddo i sefydlu’r Wladfa yn yr Ariannin.

“Hyderwn y gallwn gynorthwyo unigolyn i wella’i sgiliau Cymraeg, a gobeithiwn y bydd hyn o fantais i eraill ym Mhatagonia.”

‘Nifer y dysgwyr ar gynnydd’

Dywedodd Ceris Gruffudd, Ysgrifennydd Cymdeithas Cymru-Ariannin: “Yn ystod y degawdau diwethaf bu tua 60 o oedolion o’r Wladfa yn dilyn Cwrs Haf Canolfan Cymraeg i Oedolion Prifysgol Caerdydd. Fe wnaeth hyn wahaniaeth mawr i’r dosbarthiadau dysgu Cymraeg yn Chubut.

“Rydym yn ddiolchgar i Brifysgol Aberystwyth am roi cyfle i un arall eleni ddod draw i Gymru ar adeg pan mae nifer dysgwyr y Gymraeg yn y Wladfa yr uchaf a fu yn hanes y Cynllun Dysgu Cymraeg a sefydlwyd ym 1996.”

Bydd yr ysgoloriaeth yn talu ffi’r cwrs a chostau llety ym Mhrifysgol Aberystwyth.