Wylfa, Ynys Môn
Mae atomfa Wylfa ar Ynys Môn wedi gorfod cau adweithydd rhif un er mwyn ymchwilio i broblem.

Dywedodd cwmni Magnox bod y trafferthion wedi dod i’r fei ddydd Sadwrn yn ystod y broses o ail-lenwi tanwydd.

Nid oes cadarnhad ynglŷn â phryd fydd yr adweithydd yn ail-agor.

Dyma’r trydydd tro i’r adweithydd gau o fewn llai na blwyddyn. Roedd ynghau o fis Ionawr-Gorffennaf y llynedd oherwydd gwaith cynnal a chadw ond ychydig wythnosau wedi iddo ail-ddechrau cynhyrchu trydan, fe gafodd ei gau eto ym mis Gorffennaf oherwydd nam.

Mae disgwyl iddo barhau i gynhyrchu trydan tan ddiwedd 2015.