Yr Arglwydd James Molyneaux
Mae teyrngedau wedi eu rhoi i gyn arweinydd Plaid Unoliaethol Ulster, yr Arglwydd Molyneaux sydd wedi marw yn 94 oed.

Bu James Molyneaux yn arwain y UUP rhwng 1979 a 1995.

Roedd wedi gwasanaethu gyda’r Awyrlu yn ystod yr Ail Ryfel Byd a chafodd ei urddo’n farchog yn 1996 cyn dod yn Arglwydd yn 1997.

Wrth roi teyrnged iddo heddiw dywedodd arweinydd presennol y UUP, Mike Nesbitt, bod James Molyneaux wedi dod a sefydlogrwydd i’r blaid a’r wlad “yn ystod un o gyfnodau mwyaf gwaedlyd a chythryblus Gogledd Iwerddon.”

Ychwanegodd bod yr UUP wedi “colli un o’i fawrion”.

Dywedodd arweinydd yr Unoliaethwyr Democrataidd Peter Robinson bod sgiliau’r Arglwydd Molyneaux yn “allweddol wrth gadw’r UUP gyda’i gilydd pan roedd gwahaniaeth barn ynglŷn â’r ffordd ymlaen.”