Mark Isherwood
Mae Ceidwadwyr Cymru wedi mynnu fod economi Prydain yn cryfhau a bod cynllun economaidd llywodraeth San Steffan yn gweithio, deufis cyn yr etholiad.

Mewn trafodaeth yn y Senedd yr wythnos hon fe ddywedodd yr Aelod Cynulliad Mark Isherwood fod angen rhoi clod i’r Glymblaid am drawsnewid yr economi a chynyddu’r nifer sydd mewn gwaith.

Ond fe gyfaddefodd yr AC Ceidwadol dros Ogledd Cymru fod pethau’n fregus o hyd, pum mlynedd ers i lywodraeth David Cameron a Nick Clegg ddod i rym.

Llongyfarch Osborne

Wrth siarad yn y Cynulliad fe soniodd Mark Isherwood am y 155,000 o bobl yng Nghymru sydd bellach ddim yn gorfod talu treth incwm o dan lywodraeth y Glymblaid.

Mynnodd fod corff rhyngwladol yr OECD wedi canmol cynllun economaidd y llywodraeth, a bod y Canghellor George Osborne yn haeddu clod.

“Mae’r OECD wedi dweud fod yr adferiad ym Mhrydain yn nodedig, ac mae George Osborne yn haeddu clod am hynny,” meddai Mark Isherwood.

“Mae diweithdra i lawr, pwysau chwyddiant i lawr, cyflogau ar i fyny, ac mae cynllun economaidd hir dymor llywodraeth y DU yn adeiladu dyfodol cryfach achos bod y llywodraeth wedi derbyn yr her o leihau’r diffyg yn y ddyled.

“Mae 1.2miliwn o bobl yng Nghymru yn talu llai o dreth nag o dan Lafur, ac fe fydd miliwnyddion yn talu mwy o dreth o dan y llywodraeth hon na wnaeth yn ystod tymor olaf y llywodraeth Lafur ddiwethaf.

“Mae mwy o fusnesau nag erioed yn cael eu harwain gan ferched, mwy o ferched ar fyrddau FTSE nag erioed o’r blaen, mae’r blwch tâl rhwng dynion a merched ar ei isaf erioed, ac mae merched dan 40 sydd yn gweithio llawn amser bellach yn ennill mwy na dynion.

Rhybuddio rhag Llafur

Mynnodd Mark Isherwood bod llawer o brosiectau gan gynnwys trydanu rheilffyrdd yng Nghymru, ymestyn rhyngrwyd band eang, ac adeiladu carchar Wrecsam a gorsaf niwclear Wylfa dim ond yn digwydd oherwydd y llywodraeth bresennol.

Ychwanegodd fod Llafur wedi methu’n llwyr i wella’r sefyllfa economaidd yng Nghymru fodd bynnag, gan ei bod yn parhau i fod yn dlotach nag unrhyw ran o Brydain.

“Ers 2010 mae llywodraeth Prydain wedi bod yn adfer economi Prydain a llynedd fe dyfodd economi Prydain yn gynt nag unrhyw wlad fawr arall, ond mae’r adferiad yn fregus,” meddai Mark Isherwood.

“Ddylen ni ddim peryglu hyn wrth ddychwelyd i’r problemau arweiniodd ni yma yn y lle cyntaf, o fenthyg, gwario, mwy o ddyled, bail out, a thoriadau mwy.”

Llymder heb weithio

Wrth ymateb i sylwadau’r Ceidwadwyr yn Siambr y Senedd, fe fynnodd Gweinidog yr Economi Llywodraeth Cymru Edwina Hart fod llymder llywodraeth San Steffan wedi cael effaith negyddol ar Gymru.

“Mae’r nifer o bobl ddi-waith yng Nghymru yn uwch nag un 2008 ac mae llymder wedi cyfrannu at yr adferiad economaidd gwanaf erioed ers dirwasgiad,” meddai Edwina Hart.

“Mae hyn yn profi, fel mae Llywodraeth Cymru wedi dadlau ers sbel, bod toriadau’r Glymblaid wedi mynd yn rhy bell, yn rhy sydyn ac wedi bod yn wrthgynhyrchiol.”