Phil Bale
Fe lwyddodd arweinydd Cyngor Caerdydd i ddod trwy bleidlais o ddiffyg hyder.
Roedd mwyafrif llethol y cynghorwyr Llafur wedi rhoi eu dadleuon o’r neilltu a chrynhoi y tu cefn i Phil Bale wrth i gynnig y gwrthbleidiau fethu o 41 pleidlais i 27.
Ond doedd un o brif feirniaid Llafur yr arweinydd, y Cynghorydd Ralph Cook, ddim yno.
Y cefndir
Roedd y gwrthbleidiau wedi dod â’r cynnig ar ôl trafferthion y grŵp Llafur wrth osod cyllideb ar gyfer y flwyddyn nesa’.
Roedden nhw wedi gorfod cael cyfarfodydd mewnol munud ola’ er mwyn cyrraedd cyfaddawd i’w roi gerbron y cyngor.
Yn ôl arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol ar y cyngor, Judith Woodman, roedd y broses yn “ffiasgo”.
‘Brwydro toriadau’
Ar ôl y cyfarfod, fe ddywedodd Phil Bale fod y dadleuon o fewn y Blaid Lafur yn arwydd o awydd yr aelodau i ymladd toriadau.
Ac, ar ôl cael ei feirniadu am ei olwg, fe ddywedodd ei fod yn falch o fod yn fwy o “Primark na Prada”.