Mae cannoedd o bobol yn protestio tu allan i bencadlys Cyngor Sir Benfro y bore ‘ma, yn galw ar gynghorwyr i achub y chweched dosbarth mewn dwy ysgol yn y sir.

Mae dyfodol chweched dosbarth Ysgol Dewi Sant, Tyddewi eisoes yn y fantol ac mae trafodaeth dros gau chweched dosbarth ysgolion cyfrwng Saesneg Ysgol Syr Thomas Picton ac Ysgol Tasker Milward hefyd.

Er nad yw’r mater yn cael ei drafod gan gynghorwyr heddiw, mae tua 500 o brotestwyr wedi ymgynnull y tu allan i swyddfa’r cyngor i wrthwynebu’r newidiadau.

O dan gynllun newydd, fe fydd disgyblion Sir Benfro sy’n cyrraedd oed chweched dosbarth yn cael eu trosglwyddo i Goleg Sir Benfro yn Hwlffordd.

Mae Cyngor Sir Benfro hefyd wedi bod yn trafod argymhelliad i greu ysgol Gymraeg 3-16 newydd yn Hwlffordd.