Cafodd dyn ei anafu’n ddifrifol wedi iddo gael ei daro gan gar ym Mhentre yng Nghwm Rhondda yn oriau man y bore ma.
Digwyddodd y gwrthdrawiad rhwng y cerddwr a char Honda Civic du toc wedi canol nos ger tafarn Banc.
Cafodd y dyn ei gludo i Ysbyty Brenhinol Morgannwg yn Llantrisant.
Dylai unrhyw un â gwybodaeth gysylltu â’r heddlu ar 101 neu ffonio Taclo’r Tacle ar 0800 555 111.