Mae’r Super Furry Animals wedi cadarnhau y byddan nhw’n dod at ei gilydd eto er mwyn perfformio ar eu taith gyntaf fel band ers 2009.

Yn dilyn wythnos ble bu’r grŵp yn rhyddhau cyfres o fideos cryptig ar YouTube, daeth y cadarnhad y bydd y Super Furrys yn canu eto wedi i’r aelodau dreulio’r chwe blynedd diwethaf yn dilyn prosiectau unigol eu hunain.

Bydd y band hefyd yn ail-ryddhau’r albwm Mwng, pymtheg mlynedd ers i’r clasur Cymraeg gyrraedd rhif 11 yn siartiau Prydain a gwerthu mwy o gopïau nag unrhyw albwm arall yn yr iaith erioed.

Pum sioe fyw

Cyhoeddodd y Super Furrys heddiw y byddan nhw’n chwarae pum sioe fyw ym mis Mai, gan ddechrau yng Nghaerdydd ar 1 a 2 Mai cyn symud ymlaen i Glasgow, Manceinion a Llundain.

Bydd Mwng hefyd yn cael ei ail-ryddhau ar 1 Mai ar Domino Records, a hynny’n dilyn cyhoeddiad diweddar The Rise Of The Super Furry Animals, llyfr am hanes y grŵp.

Mae disgwyl i’r albwm gael ei chyhoeddi ar sawl ffurf gan gynnwys finyl, CD ac yn ddigidol, gyda phum trac oedd ar fersiwn Americanaidd Mwng yn ogystal â sesiwn John Peel a sioe fyw sydd heb fod ar gael o’r blaen.

Fideo’r Super Furry Animals yn cyhoeddi eu bod nôl: