Kirsty Williams
Mae arweinydd Democratiaid Rhyddfrydol Cymru wedi herio’r Prif Weinidog i fynd ati ar unwaith i alw refferendwm ar ddatganoli treth incwm.

Mae cael rhywfaint o hawl i amrywio trethi’n hanfodol, meddai Kirsty Williams, adeg cyhoeddi Cytundeb Dydd Gŵyl Dewi ar ddyfodol datganoli.

Hyd yma, mae’r Prif Weinidog Carwyn Jones a’r Blaid Lafur wedi gwrthod y syniad o gael grym tros rywfaint o dreth incwm – nes y bydd Cymru’n cael ‘chwarae teg’ o ran cyllid o Lundain.

‘Anghysondeb’

Mae gan gynghorau sir a bro yr hawl i godi rhywfaint o drethi, meddai Kirsty Williams, ond dyw’r grym hwnnw ddim gan y Llywodraeth.

“Mae’n anghysondeb,” meddai wrth siarad ar Radio Wales cyn cynhadledd wanwyn ei phlaid.

“Pan fydd Llywodraeth Cymru’n cael polisi’n gywir, dydyn nhw ddim yn elwa o hynny a dydyn nhw ddim yn teimlo’r anfantais pan fyddan nhw’n ei chael hi’n anghywir.”