Llys y Goron Caerdydd
Fe wnaeth glanhawr ffenestri ymateb yn ffyrnig wedi i reithgor yn Llys y Goron Caerdydd ei gael yn euog o ladrad “brawychus” lle gwnaeth o dorri i mewn i dŷ dynes 88 oed.

Clywodd y llys bod Constance Davies, 88, wedi bod yn gwylio’r teledu yn ei chartref pan wnaeth  Gavin Tainton, 32, o Faesteg  dorri i mewn i’w thŷ, ei thaflu ar lawr a’i chlymu hefo rhaff ar 4 Awst y llynedd.

Roedd wedi mynnu ei bod hi’n rhoi arian a gemwaith iddo ac wedi ei bygwth i gadw’n dawel, cyn torri ei llinell ffon a ffoi o’r tŷ.

Y diwrnod canlynol, fe lwyddodd Constance Davies i adael y tŷ ac fe aeth i feddygfa  Llynfi. Roedd wedi  erfyn ar  nyrs yno i beidio dweud wrth unrhyw un am y drosedd am ei bod yn beio ei hun am beidio cloi’r drws cefn.

Roedd y bensiynwraig wedi torri dau asgwrn yn ei llaw ac wedi cael cleisiau a man anafiadau.

Yn Llys y Goron Caerdydd heddiw cafwyd Gavin Tainton yn euog o ladrad wedi i’r heddlu ddarganfod ei olion bysedd yn nhŷ Constance Davies.

Roedd Tainton wedi mynnu ei fod yn ddieuog gan ddweud bod Constance Davies yn un o’i gwsmeriaid a’i bod hi wedi ei wahodd i mewn i’w thŷ bythefnos cyn y lladrad i symud bocsys.

Pan glywodd y dyfarniad, fe ddechreuodd Tainton weiddi a rhegi ar y rheithgor a chicio drws ar ei ffordd i’r ddalfa.

Bydd yn cael ei ddedfrydu yfory.