Mae’r heddlu sy’n ymchwilio i ddiflaniad artist 72 oed o Ysbyty Brenhinol Gwent wedi dweud bod corff dyn wedi cael ei ddarganfod.

Mae lle i gredu mai corff Roger Cecil, oedd yn dioddef o ddementia, gafodd ei ddarganfod yng Nghwmbrân brynhawn ddoe.

Cafodd Heddlu Gwent eu galw i gae am oddeutu 4.15 brynhawn dydd Mawrth wedi i aelod o’r cyhoedd ddarganfod y corff.

Er nad yw’r corff wedi’i adnabod yn ffurfiol, dywed yr heddlu eu bod nhw’n hyderus mai corff Roger Cecil gafodd ei ddarganfod.

Mae ei farwolaeth yn cael ei hystyried fel un nad oes modd ei esbonio, ac mae’r achos wedi’i gyfeirio at Gomisiwn Annibynnol Cwynion yr Heddlu (IPCC).