Alun Cairns
Bydd Gweinidog Swyddfa Cymru Alun Cairns yn galw ar siaradwyr Cymraeg i “ysgwyddo cyfrifoldeb fel unigolion” dros yr iaith mewn araith i Ganolfan Llywodraethiant Cymru heno.

Mae disgwyl i Alun Cairns, AS Bro Morgannwg, bwysleisio ymrwymiad Llywodraeth y DU i’r iaith yn ogystal ag annog siaradwyr i’w defnyddio mor aml ag sy’n bosibl.

Ond mae Cymdeithas yr Iaith wedi cyhuddo’r AS Ceidwadol o ragrith, gan fod gwefan Alun Cairns ei hun yn uniaith Saesneg.

Llai o ddeddfwriaeth

Mae disgwyl i Alun Cairns awgrymu yn ei araith yng Nghaerdydd heno y gallai ceisio cael rhagor o ddeddfwriaeth fod yn wrthgynhyrchiol i’r Gymraeg.

Mae disgwyl iddo ddweud: “Nid wyf eisiau gweld trefn o reoleiddio’r iaith sy’n esgeuluso ymdrechion i hybu ei defnyddio.

“Rhaid i ni osod y nod o hybu’r iaith yn organig, yn enwedig ar lefel llawr gwlad, ac iddi wreiddio fel iaith gymunedol fyw sy’n ffynnu.  Mae ffigurau siomedig Cyfrifiad 2011 yn cadarnhau graddfa’r her hon.”

Bydd yr Aelod Seneddol yn pwysleisio pwysigrwydd sicrhau swyddi yn y Fro Gymraeg fel ffordd o gefnogi hynny, gan adleisio slogan enwog Cymdeithas yr Iaith o’r 70au ‘Dim iaith heb waith’.

Mae disgwyl iddo hefyd dalu teyrnged i fudiadau ar lawr gwlad fel yr Urdd, Mentrau Iaith a Merched y Wawr sydd yn cynnig amrywiaeth o gyfleoedd cymdeithasol a diwylliannol drwy gyfrwng y Gymraeg.

Elitaeth a’r iaith

Mae disgwyl hefyd i Alun Cairns awgrymu bod rhywfaint o elitaeth ynglŷn â’r iaith Gymraeg sydd yn rhwystr i ddysgwyr deimlo fel eu bod yn rhan o’r gymuned.

“Rwyf hefyd yn herio pawb i wneud mwy i gofleidio ac i annog dysgwyr Cymraeg, ac i fod yn amyneddgar ac yn gefnogol, yn enwedig i’r rheini o gymunedau nad ydynt yn siarad Cymraeg yn draddodiadol,” ychwanega Alun Cairns.

“Yn anffodus mae gormod o lawer o siaradwyr Cymraeg, yn enwedig cenhedlaeth iau sydd wedi astudio’r Gymraeg nes eu bod yn 16 oed yn yr ysgol, nad ydynt yn gweld eu hunain fel siaradwyr Cymraeg, neu nid oes ganddyn nhw’r hyder i ddefnyddio’r iaith y tu allan i’r ystafell ddosbarth neu fuarth yr ysgol.

“Mae gan y Cyfryngau Cymraeg ran bwysig i’w chwarae o ran herio patrymau ieithyddol a meithrin hyder pobl i siarad Cymraeg a’i defnyddio yn eu bywydau bob dydd.”

Edrych yn y drych

Mae Cymdeithas yr Iaith fodd bynnag wedi awgrymu y dylai Alun Cairns osod esiampl ei hun gyda’i ddefnydd o’r Gymraeg ar-lein cyn pregethu i eraill am siarad yr iaith.

“Fel gweinidog gyda chyfrifoldeb o fewn Swyddfa Cymru dros y Gymraeg a diwydiannau technoleg gwybodaeth, fe ddylai rhywun fel Alun Cairns fod yn dangos esiampl dda,” meddai Aled Powell, Cadeirydd Grŵp Digidol Cymdeithas yr Iaith.

“Wrth iddo fynd i areithio fod rhaid i’r Cymry gymryd cyfrifoldebau dros gyflwr a pharhad yr iaith, rhaid gofyn pam nad yw yntau yn ymddangos yn fodlon i’w wneud ei hun.

“Un peth bach gallwn ni gyd ei wneud i helpu sicrhau ffyniant y Gymraeg yw defnyddio’r iaith ar-lein, ond mae’n amlwg o wefan a chyfrifon Facebook a Twitter Alun Cairns nad yw’r Gymraeg yn bwysig iddo o gwbl.

“Mae Alun Cairns yn gwasanaethu Llywodraeth sydd wedi torri grant y Llywodraeth i S4C o 93%. Mae’n rhaid dweud ei fod yn destun syndod bod ganddo fe’r gallu i fod yn ddigon hy i geisio pregethu wrth eraill am sefyllfa’r Gymraeg yn y fath modd.”