Mochyn daear
Mae’r Dirprwy Weinidog Amaeth a bwyd wedi gofyn i aelodau o’r cyhoedd gysylltu os ydyn nhw’n darganfod moch daear marw am eu bod yn gallu helpu yn y frwydr yn erbyn TB mewn gwartheg yng Nghymru.

Fel rhan o arolwg helaeth, bydd moch daear marw ledled Cymru yn cael eu casglu a’u harchwilio am arwyddion o TB buchol, gyda’r arolwg yn parhau am weddill 2015 o leiaf.

Dywedodd Rebecca Evans, y Dirprwy Weinidog Ffermio a Bwyd:   “Wrth inni nesáu at y Gwanwyn, bydd mwy o foch daear ar hyd y lle ac mae’n fwy tebygol y byddan nhw’n cael eu lladd ar ein ffyrdd.  Hefyd, mae pobl yn fwy tebygol o ddod ar draws moch daear marw wrth fynd am dro yng nghefn gwlad.

“Os  ddewch chi o hyd i fochyn daear wedi marw, cysylltwch â ni er mwyn helpu yn y frwydr yn erbyn TB buchol.  Mae’n bwysig peidio â chyffwrdd â mochyn daear sydd wedi marw na symud y corff o gwbl chwaith.”

‘Gwybodaeth ddefnyddiol’

Dywedodd Christianne Glossop, Prif Swyddog Milfeddygol Cymru:  “Bydd yr arolwg yn rhoi gwybodaeth ddefnyddiol i ni am haint M bovis mewn moch daear a bydd yn ein helpu i ddeall yn well y cysylltiad rhwng yr haint TB buchol mewn moch daear a gwartheg.  Hefyd, bydd yn rhoi mwy o wybodaeth i ni am epidemioleg y clefyd.  Byddwn yn defnyddio’r canlyniadau i ddatblygu polisi ar lefel leol a chenedlaethol.”

Mae’r cyhoedd yn cael eu hannog i gysylltu gyda’r Asiantaeth Iechyd Anifeiliaid a Phlanhigion ar 0300 303 8268 os ydynt yn darganfod mochyn daear wedi marw.  Mae’r llinell ffôn ar agor rhwng 9am a 5pm, o ddydd Llun i ddydd Gwener.