Senedd Gwlad Groeg
Mae Gwlad Groeg wedi cyflwyno ei chynlluniau i geisio dod i gytundeb ynglŷn â benthyciadau ariannol gan wledydd Ewrop a dod a’r ansicrwydd ynglŷn â dyfodol y wlad yn yr ewro i ben.

Dywedodd gweinidog cyllid yr Iseldiroedd, Jeroen Dijsselbloem, sy’n cadeirio cyfarfodydd gweinidogion cyllid parth yr ewro, ei fod wedi derbyn cais gan Wlad Groeg am “estyniad o chwe mis.” Nid oes unrhyw fanylion pellach wedi cael eu rhoi.

Dywedodd swyddog yr Undeb Ewropeaidd y byddai cyfarfod rhwng 19 o weinidogion cyllid parth yr ewro yn cael ei gynnal ym Mrwsel ddydd Gwener.

Mae Athen wedi dweud y bydd yn gwneud cais i ymestyn cyfnod y cymorth ariannol sydd wedi bod mewn grym ers 2010.

Dywedodd llefarydd ar ran llywodraeth Gwlad Groeg ei bod yn gwneud popeth yn ei gallu i ddod i gytundeb ar frys ac un a fyddai’n dderbyniol i’r 18 o wledydd eraill ym mharth yr ewro.

Ond mae’n mynnu na fydd y llywodraeth newydd yn derbyn mesurau llymder pellach er mwyn sicrhau’r cymorth ariannol.