Daeth y chwilio am fachgen 11 oed yn Afon Tywi i ben neithiwr ond mae disgwyl i dimau achub ail-ddechrau chwilio y bore ma.
Cafodd Heddlu Dyfed-Powys eu galw i ardal Tanerdy ger Caerfyrddin toc cyn 4 o’r gloch ddydd Mawrth, ac mae’r heddlu, y gwasanaeth tân, gwylwyr y glannau, badau achub a thimau achub mynydd wedi bod yn chwilio amdano.
Roedd oddeutu 50 o bobol wedi ymuno yn y chwilio ddoe. Dywed yr heddlu bod chwilio’r afon yn anodd gyda dŵr sy’n llifo’n gyflym, dŵr llanw a phyllau tywyll.
Mae’n debyg ei fod wedi bod yn chwarae gyda’i frawd pan syrthiodd i’r dŵr.
Dywedodd llefarydd ar ran Heddlu Dyfed Powys y byddai’r heddlu yn aros ar y safle dros nos ac y bydd y chwilio yn ail-ddechrau tua 9 y bore ma.
Mae teulu’r bachgen yn derbyn cefnogaeth yr heddlu.