Jennifer Mills-Westley
Mae’r crwner yng nghwest dynes a gafodd ei llofruddio yn Tenerife gan ddyn oedd yn dioddef o broblemau iechyd meddwl, wedi cyhoeddi rheithfarn naratif.

Clywodd y cwest bod Jennifer Mills-Westley, 60, oedd yn dod o Norwich yn wreiddiol, wedi bod yn siopa mewn archfarchnad yn Los Cristianos ar 13 Mai 2011 pan ymosododd Deyan Deyanov arni gyda chyllell.

Roedd llys yn Sbaen wedi dyfarnu bod Deyan Deyanov yn dioddef o sgitsoffrenia paranoiaidd adeg y llofruddiaeth a chafodd ei ddedfrydu i 20 mlynedd mewn uned seiciatryddol yn Seville.

Roedd Deyanov, 30 oed, o Fwlgaria  wedi cael triniaeth yn uned seiciatryddol Ysbyty Glan Clwyd ym Modelwyddan yn 2010, tra ei fod yn aros gyda pherthynas yn Y Fflint.

Mewn adroddiad dywedodd Arolygaeth Gofal Iechyd Cymru bod “diffygion amlwg” yn y gofal a’r driniaeth a gafodd Deyan Deyanov  yn Ysbyty Glan Clwyd, a bod diagnosis amhriodol wedi ei roi o’i gyflwr seicolegol.

‘Ffiaidd’

Roedd merch Jennifer Mills-Westley, Sarah Mills-Westley, yn y cwest yn Llys y Crwner yn Norfolk heddiw gydag aelodau eraill o’r teulu.

Dywedodd y crwner, Jacqueline Lake, nad oedd posib i Jennifer Mills-Westley amddiffyn ei hun oherwydd bod Deyanov wedi ymosod arni gyda chyllell o’r tu ôl gan ei thrywanu sawl gwaith yn ei gwddf nes ei bod wedi cael ei dienyddio.

“Roedd wedi sicrhau y gallai ei lladd heb unrhyw risg iddo ef ei hun,” meddai.

“Roedd yn ddigwyddiad hollol ffiaidd.”

Wrth gofnodi rheithfarn naratif dywedodd y crwner bod Jennifer Mills-Westley wedi marw yn dilyn ymosodiad gan berson nad oedd hi’n ei adnabod ac nad oedd modd iddi amddiffyn ei hun.

Roedd y teulu wedi gwrthod gwneud sylw ar ôl y cwest.