Mae nifer y di-waith yng Nghymru wedi cynyddu o 2,000  rhwng mis Hydref a Rhagfyr y llynedd, yn ôl ffigyrau diweddaraf y Swyddfa Ystadegau Gwladol.

Dros y cyfnod hwnnw, roedd cyfanswm o 99,000 o bobol yn ddi-waith ond roedd nifer y bobol sy’n hawlio budd-daliadau wedi gostwng.

Mae’r ffigyrau diweithdra ar gyfer gweddill Prydain wedi gostwng i’w lefel isaf ers saith mlynedd, sy’n golygu bod 1.86 miliwn yn ddi-waith – gostyngiad o 97,000 o bobol ers mis Hydref.

Uwchben y cyfartaledd hanesyddol

Wrth ymateb i’r ffigyrau diweddaraf, dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: “Mae diweithdra yng Nghymru wedi parhau i wella, ac mae’r ffigyrau wedi aros yn sefydlog ac uwchben y cyfartaledd hanesyddol. Ar yr un pryd, mae diweithdra yn is na’r cyfnod hwn y llynedd.

“Mae nifer y bobol sy’n hawlio budd-daliadau wedi gostwng ym mhob rhan o Gymru o 17,400 o’i gymharu â’r llynedd.”

Ychwanegodd Ysgrifennydd Cymru Stephen Crabb: “Mae’n glir bod rhaid i ni weithio’n galed o hyd er mwyn sicrhau tueddiad tymor hir o ran cyflogaeth.”

‘Cwestiynau i’w gofyn’

Ond yn ôl y Democratiaid Rhyddfrydol yng Nghymru, mae’r cynnydd yn nifer y di-waith yn codi cwestiynau am arweinyddiaeth Llywodraeth Cymru.

“Rydym ni’n gofyn bob mis pam fod ffigyrau diweithdra Cymru yn gostwng ar gyfradd llawer arafach na gweddill Prydain,” meddai llefarydd economi’r  blaid, Eluned Parrot.

“Mae angen i’r Llywodraeth ddyblu ei hymdrechion i leihau diweithdra yng Nghymru – mae ei chynllun creu swyddi wedi ei dargedu’n wael ac angen mwy o uchelgais.”

‘Pryder sylweddol’

Wrth ymateb i’r ffigurau, dywedodd llefarydd Plaid Cymru ar yr economi, Rhun ap Iorwerth: “Mae’n destun pryder sylweddol fod Cymru wedi colli 24,000 o swyddi yn 2014 tra bod gweddill y DU wedi ail-adeiladu ei marchnad waith.

“Tra bod Llywodraeth yr Alban yn gweithio’n ddiflino er lles pobol yr Alban, gan greu bron i 65,000 o swyddi newydd yn ystod y flwyddyn ddiwethaf, gan gadw eu cyfradd diweithdra o dan gyfartaledd y DU, mae Llywodraeth Lafur Cymru wedi llusgo’i thraed ac wedi gadael i Gymru lithro unwaith eto.

“Mae angen mawr am lywodraeth sy’n gweithio er lles Cymru.”