Mae Llywodraeth y DU wedi dod o dan y lach gan ddiffoddwyr tân ar ôl iddi ddod i’r amlwg fod Llywodraeth Cymru yn gwneud cynnig gwell iddyn nhw mewn anghydfod hir dros bensiynau.

Dywedodd Undeb y Brigadau Tân (FBU) fod Llywodraeth Cymru wedi ymateb i’w bryderon am yr anfantais i ddiffoddwyr tân  os fyddan nhw’n methu prawf ffitrwydd.

Mae’r gwelliant yn golygu y byddai diffoddwyr tân yng Nghymru, sy’n ymddeol yn 55 mlwydd oed, yn gweld gostyngiad o tua 9% yn eu pensiwn yn hytrach na’r 22% y bydd diffoddwyr tân yn Lloegr yn ei gael o dan y cynigion “anymarferol” sydd wedi eu hamlinellu gan San Steffan, meddai’r undeb.

Nawr, bydd aelodau’r FBU yn Lloegr yn cynnal streic arall ar 25 Chwefror ar ôl i’r undeb gyhuddo’r Gweinidog Tân, Penny Mordaunt, o “gamarwain” Aelodau Seneddol yn ystod dadl yn Nhŷ’r Cyffredin ynghylch  beth fydd yn digwydd i bensiynau’r diffoddwyr tân os ydynt yn methu prawf ffitrwydd.

Dywedodd yr FBU ei fod yn parhau i godi pryderon eraill gyda Llywodraeth Cymru, ond mae wedi cydnabod bod datblygiad “sylweddol” wedi bod.

‘Trafod’

Dywedodd ysgrifennydd cyffredinol yr FBU, Matt Wrack, fod y gwelliant sylweddol yn y cynigion yn cael ei groesawu gan ddiffoddwyr tân yng Nghymru.

Ychwanegodd fod y cynnig yn dangos yr hyn sy’n bosibl pan fydd y ddwy ochr yn eistedd i lawr a thrafod yr opsiynau sydd ar gael.

Dywedodd Leighton Andrews, Gweinidog Gwasanaethau Cyhoeddus Llywodraeth Cymru, fod cyfraith gwlad yn dweud mai 60 yw oedran ymddeol diffoddwyr tân.

Serch hynny, meddai, oherwydd y safonau ffitrwydd llym mae’n rhaid iddynt gyflawni, mae rhesymau da dros drin diffoddwyr tân fel “achos arbennig”.

Meddai Leighton Andrews: “Allwn ni ddim disgwyl i ddiffoddwyr tân weithio tu hwnt i’r oedran pryd fydd llawer ohonynt yn anaddas i wneud hynny, neu eu cosbi am effeithiau henaint na ellir eu hosgoi.

“Byddai gwneud hynny’n annheg – ar ddiffoddwyr tân ac ar y trigolion a chymunedau y maent yn eu diogelu.”

Ychwanegodd y bydd y telerau newydd yn dod i rym yng Nghymru ar Ebrill 1.