Y ddynes a allai fod wedi gweld y ddamwain angheuol
Mae Heddlu De Cymru wedi cyhoeddi llun o ddynes maen nhw’n awyddus i siarad â hi mewn cysylltiad â gwrthdrawiad angheuol ym Mhenarth.
Credir bod y ddynes yn llygad dyst i ddamwain lle cafodd dynes ei lladd ar ol bod mewn gwrthdrawiad a char wrth iddi groesi’r ffordd am tua 5:10yp ar 23 Rhagfyr.
Roedd y ddynes fu farw yn cerdded ar Ffordd Lavernock pan gafodd ei tharo gan gar oedd yn teithio tuag at Ffordd Redlands.
Meddai’r heddlu: “Fe allai’r ddynes hon fod wedi gweld y digwyddiad ac rydym eisiau siarad â hi i weld os oes ganddi unrhyw wybodaeth ynglŷn â’r ddamwain.”
Gofynnir i unrhyw un sydd â gwybodaeth i gysylltu â Tony Farr o’r uned damweiniau difrifol ar 02920 633438.