Ysbyty Glan Clwyd
Mae darogan y bydd 5,000 o bobol yn protestio ar strydoedd Y Rhyl ddydd Sadwrn yn erbyn newidiadau i ofal mamolaeth ymgynghorol yn Ysbyty Glan Clwyd.

Bydd protestwyr yn lleisio eu gwrthwynebiad i gynllun i sgrapio’r gwasanaeth ym Modelwyddan am o leiaf 12 mis.

O ganlyniad i broblemau staffio, cyhoeddodd Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr yr wythnos diwethaf y bydd mamau sy’n cael trafferthion wrth roi genedigaeth yn cael eu trosglwyddo i naill ai Ysbyty Gwynedd ym Mangor neu Ysbyty Maelor Wrecsam.

Ers hynny, mae bron i 15,000 o bobol wedi ymuno a thudalen Facebook yn galw ar y bwrdd iechyd i ail-ystyried  y penderfyniad gyda rhai yn dweud y bydd yn “peryglu bywydau”.

Gwrthwynebiad

Mae disgwyl y bydd rhai aelodau o staff yr ysbyty yn y brotest, er bod y bwrdd iechyd wedi dweud yn wreiddiol na fydden nhw’n cael mynd, ynghyd a mamau a thrigolion sy’n gwerthfawrogi’r gwasanaeth yn Ysbyty Glan Clwyd.

Dywed undeb Unsain Cymru y bydd yn cefnogi’r protestwyr.

Dywedodd Donna Hutton, trefnydd rhanbarthol Unsain Cymru eu bod nhw wedi galw ar  Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr i edrych ar ddewisiadau eraill.

Meddai: “Ein barn ni, yn ogystal â barn ein haelodau sy’n gweithio fel bydwragedd, gweithwyr cymorth gofal iechyd a staff ambiwlans, yw bod y cyhoedd angen i’r uned aros ar agor.

“Mae gennym bryderon am y straen y byddai cau’r uned yn ei roi ar wasanaethau yn Wrecsam a Bangor, ac rydym yn credu bod dewisiadau amgen y dylid eu hystyried cyn cymryd cam o’r fath.

“Mae angen grwpiau cymunedol i ddod at ei gilydd ar y mater hwn er mwyn achub y gwasanaeth a’r rhai sy’n gweithio’n ddiflino i’w ddarparu.”

Newid dros dro

Yn y cyfamser, mae penaethiaid Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr wedi amddiffyn y penderfyniad i israddio’r uned gan ddweud fod y gwasanaeth ymgynghorol yn ei ffurf bresennol ar fin chwalu.

Mae’r pennaeth, Peter Higson, yn mynnu mai newid dros dro yw hwn ac y bydden nhw’n ceisio adfer y gwasanaeth cyn gynted ag sy’n bosib.

Fe fydd y protestwyr yn cwrdd yn Arena Digwyddiadau’r Rhyl am 2 o’r gloch prynhawn dydd Sadwrn, 21 Chwefror.