Dr John Davies Llun: Llenyddiaeth Cymru
Mae’r hanesydd, y darlithydd a’r darlledwr Dr John Davies wedi marw yn 76 oed.

Ei waith enwocaf a phwysicaf oedd Hanes Cymru sy’n cael ei gydnabod fel y gwaith pwysicaf ar hanes y wlad.

Cafodd ei eni yn y Rhondda yn 1938 ond symudodd y teulu i bentref Bwlchllan ger Llanbedr Pont Steffan pan oedd yn saith oed ac roedd yn cael ei adnabod gan lawer fel John Bwlchllan.

Cafodd ei addysg ym Mhrifysgol Cymru, Caerdydd a Choleg y Drindod, Caergrawnt cyn ymuno ag adran hanes Prifysgol Cymru, Aberystwyth.

Roedd hefyd yn warden neuadd breswyl Pantycelyn am nifer o flynyddoedd.  Symudodd i Gaerdydd wedi iddo ymddeol.

Angerdd heintus’

Wth dalu teyrnged iddo, dywedodd Cyfarwyddwr BBC Cymru, Rhodri Talfan Davies:

“Fel darlledwr ac academydd, roedd Dr John Davies yn hanesydd eithriadol.

“Llwyddodd nid yn unig i ddod â hanes Cymru a’i phobol yn fyw – fe wnaeth hynny yn ei ffordd liwgar ei hun. Ac roedd ei angerdd heintus yn cyffwrdd a chyfoethogi bywydau cymaint o bobol.

“I unrhyw un sydd o ddifrif eisiau deall y grymoedd sydd wedi llunio – ac sy’n parhau i lunio – ein cenedl, mae ei waith yn cynnig etifeddiaeth anhepgor.”

Mewn datganiad ar eu gwefan, dywedodd Llenyddiaeth Cymru eu bod yn estyn eu “cydymdeimlad diffuant i deulu John Davies” ac y bydden nhw’n cyhoeddi teyrngedau iddo ar eu gwefan yn ystod yr wythnos.

‘Un o Gymry mwyaf dylanwadol ein hoes’

Dywedodd Richard Wyn Jones o Ganolfan Llywodraethiant Cymru: “Bydd John Davies yn cael ei gofio nid yn unig fel un o haneswyr mwyaf ei genhedlaeth, ond fel un o Gymry mwyaf dylanwadol ein hoes.

“Go brin fod na unrhyw un wedi gwneud mwy i sicrhau ein bod ni fel pobl yn ymwybodol o’n hanes. Petai hynny ddim yn ddigon, roedd o hefyd yn un o sylfaenwyr Cymdeithas yr Iaith Gymraeg ac yn ddylanwad mawr ar genedlaethau o arweinwyr cymunedol a chenedlaethol Cymreig trwy ei waith fel Warden Neuadd Pantycelyn yn Aberystwyth.

“Yn enwog trwy’r wlad am ei ffraethineb a’i wybodaeth di-hysbydd, roedd o’n un o gymeriadau mawr ein bywyd cenedlaethol. Bydd colled mawr iawn ar ei ôl.”

‘Cyflwyno Cymru i’r byd’

Dywedodd arweinydd Plaid Cymru, Leanne Wood,  fod gwaith John Davies wedi cyflwyno “Cymru i’r byd”  ac y bydd ei gyfraniad i fywyd Cymru yn ysbrydoli cenedlaethau i ddod.

Dywedodd Leanne Wood AC:  “Trwy ei waith ysgrifenedig, cyflwynodd Gymru i’r byd. Caiff ei gofio fel rhywun a helpodd ei genedl i ddeall a dathlu ei gorffennol a magu ei hunanhyder.

“Roedd John Davies yn storïwr di-fai. Mae gen i atgofion melys iawn o dreulio oriau difyr yn ei gwmni – yn adlewyrchu ar ein brwdfrydedd am y Rhondda yn ogystal â’n gobeithion am gynnydd gwleidyddol.”

Ychwanegodd:  “Rydym yn meddwl llawer am deulu a chyfeillion John ar yr adeg drist hon, ond rwy’n gobeithio y byddant yn cael eu cysuro o wybod y bydd ei waith  a’i gyfraniad i fywyd Cymru yn parhau i fod yn addysg ac yn ysbrydoliaeth i bobl Cymru am genedlaethau i ddod.”

‘Ysbrydoli cenhedlaeth newydd o ymgyrchwyr iaith’

John Davies oedd ysgrifennydd cyntaf Cymdeithas yr Iaith Gymraeg, ac fe drefnodd brotest gyntaf y mudiad ar bont Trefechan ym 1963.

Dywedodd Sel Jones, Is-gadeirydd Cymdeithas yr Iaith Gymraeg:  “Bu cyfraniad John Davies i’n hiaith, a’r mudiad cenedlaethol yn gyffredinol, yn amhrisiadwy. Athrylith, ysgolhaig, cofnodydd hanes ei bobl oedd a’i draed ar y ddaear. Bydd colled enbyd ar ei ôl.

“Fel ein hysgrifennydd cyntaf, fe oedd yn gyfrifol am sefydlu ein mudiad; ond, yn bwysicach na hynny, fe ysbrydolodd e genhedlaeth newydd o ymgyrchwyr iaith. Pobl sydd wedi llwyddo i gadw’n hiaith yn fyw.  Mae’n cydymdeimlad gyda’i deulu a’i gyfeillion heddiw, ond bydd ein dyled i John Davies – fel ymgyrchwyr iaith ac fel pobl – yn para am byth.”

‘Arloeswr’

Dywedodd Comisiynydd y Gymraeg, Meri Huws:  “Roedd John Davies yn ysbrydoliaeth i nifer fawr o Gymry. Yn amlwg mae ei gampweithiau ‘Hanes Cymru’ a ‘Cardiff and the Marquesses of Bute’ yn sefyll allan.

“Ond i mi fel un oedd yn byw ym Mhantycelyn pan roedd John yn Warden, ac fel cyn Gadeirydd o Gymdeithas yr Iaith byddaf yn cofio John fel ymgyrchydd ac arloeswr dros y Gymraeg. Fel ysgrifennydd cyntaf Cymdeithas yr Iaith ac yna fel warden y neuadd breswyl Gymraeg cyntaf – byddaf yn cofio ei anwyldeb a’i sêl dros y Gymraeg. Mae dyled Cymru a’r Gymraeg yn fawr i John.”

‘Ysbrydoledig’

Ac mae’r teyrnegedau iddo wedi llifo ar y wefan rhyngweithio Twitter.

Dywedodd yr awdur a’r darlledydd Mike Parker ei fod yn “ddyn hyfryd, hyfryd iawn, hanesydd rhagorol, siaradwr a darlledwr ysbrydoledig.”

S4C – ‘Y bwlch ar ôl ‘Bwlch Llan’ yn anferth’

Fe wnaeth John Davies gyfrannu i ystod o gyfresi a rhaglenni S4C yn ogystal ag ysgrifennu llu o gyhoeddiadau fu’n ganolog i astudiaethau hanesyddol am Gymru yn yr ugeinfed ganrif a’r unfed ganrif ar hugain.

Meddai Huw Jones, Cadeirydd Awdurdod S4C: “Gofynnwyd i mi unwaith enwi un llyfr Cymraeg y dylai pawb ei ddarllen. Fy ateb oedd ‘Hanes Cymru’ John Davies. Mae’r gyfrol yn glasur, yn ffrwyth dealltwriaeth academaidd ddofn o’r pwnc ond hefyd yn gyflwyniad hawdd-mynd-ato a llithrig ei iaith, ac yr un mor llwyddiannus yn y cyfieithiad Saesneg gwerthfawr a gafwyd maes o law. Mae’n ddarllen hanfodol i unrhyw un sydd am ddeall Cymru.

“Gwnaeth John Davies gyfraniad anferth i fywyd deallusol a chenedlaethol Cymru yn ail hanner yr ugeinfed ganrif, a dechrau’r ganrif hon. Roedd yn un o sylfaenwyr Cymdeithas yr Iaith Gymraeg, wrth gwrs, yn warden cynnar dylanwadol ar Neuadd Pantycelyn, yn gyfrannwr lliwgar a gogleisiol i ddegau o raglenni teledu, yn ogystal â bod yn hanesydd academaidd cynhyrchiol uchel ei barch. Fe fydd y bwlch ar ôl ‘Bwlch Llan’ yn un anferth.”

Mewn rhaglen ddogfen amdano ar S4C y llynedd – ‘Gwirionedd y Galon: Dr John Davies’ – gofynwyd iddo os oedd ganddo ofn marwolaeth.  Meddai: “Ofn marwolaeth? Nagw. Fyddwn i’n synnu dim – erbyn y bydda i’n 80 bydda i’n edrych ymlaen ato fe, i ‘lithro i’r llonyddwch mawr yn ôl’.

Bydd y gyfres gylchgrawn Heno hefyd yn talu teyrnged i John Davies heno (nos Lun, 16 Chwefror) am 7yh.