Fe fydd un o bwyllgorau Cyngor Sir Ynys Môn heddiw yn trafod cynlluniau i wneud i rieni dalu am ofal plant mewn clybiau brecwast cyn oriau ysgol.

Ar hyn o bryd, mae cynllun brecwast am ddim Llywodraeth Cymru yn golygu bod gan bob plentyn cynradd hawl i gael brecwast am ddim os nad ydyn nhw’n cael pryd o fwyd cyn dod i’r ysgol.

Ond drwy wneud i rieni dalu £1.50 am y gofal sy’n cael ei roi gan athrawon a gweithwyr ysgol yn y bore, cyn i’r brecwast gael ei ddarparu, mae’r cyngor yn dweud y gallai godi £171,000 y flwyddyn a chyfrannu at y diffyg o £4 miliwn sy’n ei wynebu.

Ni fyddai’n rhaid i bobl sy’n derbyn budd-daliadau dalu am y gofal.

Gwrando

Eglurodd Arweinydd y Cyngor Sir, y Cynghorydd Ieuan Williams: “Rydym wedi gwrando ar yr hyn mae pobol wedi bod yn ddweud wrthym ac yn bwriadu cynnal asesiad llawn o effaith y cynnig penodol.

“Hoffwn bwysleisio na fyddai disgwyl i rieni’r plant hynny sydd eisoes yn derbyn cinio ysgol am ddim i gyfrannu tuag at y gost o oruchwyliaeth yn y bore, os yw’r cynnig yma’n cael ei fabwysiadu yn y dyfodol.”

Mae’r Pwyllgor Gwaith yn bwriadu cynnwys yr arbedion effeithlonrwydd ‘Brecwast Ysgol’ fel rhan o’i gynigion Cyllideb fydd yn cael eu cyflwyno i’r Cyngor Llawn ar 26 Chwefror .