Owen Smith
Byddai Llywodraeth Lafur yn San Steffan yn cynnig “chwarae teg a rheolau teg” i Gymru, yn ôl llefarydd materion Cymreig y Blaid Lafur, Owen Smith.

Fe fydd Smith yn annerch cynhadledd y Blaid yn Abertawe heddiw.

Mae disgwyl i Smith, sy’n Aelod Seneddol dros Bontypridd, ddweud fod ei blaid yn barod i helpu pobol gyffredin ar draul buddiannau pobol gyfoethog sy’n ceisio osgoi talu trethi.

“O dan Ed Miliband, mae Llafur wedi cael ein ‘mojo’ yn ôl fel plaid sydd yn bendant o blaid pobol sy’n gweithio – gan sefyll i fyny i fuddiannau personol a brwydro bob amser er lles buddiannau’r bobol.

“O osogi trethi i gamddefnyddio grym corfforaethol a’r cyfryngau, bydd llywodraeth sydd wedi’i harwain gan Miliband yn sicrhau chwarae teg a rheolau teg, y chwarae teg y mae pobol yn ei ddisgwyl yng Nghymru ac yn ei ddisgwyl yn benodol gan y Blaid Lafur.”

Daw sylwadau Smith yn dilyn anerchiad gan Ed Miliband ddoe, pan addawodd y byddai’n sicrhau ymchwiliad annibynnol i fylchau yn y gyfraith oedd wedi galluogi corfforaethau i osgoi talu miliynau o bunnoedd o drethi.