Ed Miliband
Mae Plaid Cymru wedi wfftio cyfres o addewidion gan Ed Miliband pe bai’r Blaid Lafur yn dod i rym yn dilyn yr etholiad cyffredinol ar Fai 7.

Ddoe yn ystod cynhadledd y Blaid yng Nghymru, dywedodd Miliband y byddai pwerau dros borthladdoedd, trefniadau etholiadol a phrosiectau ynni mawr yn cael eu datganoli pe bai Llafur yn dod i rym.

Addawodd Miliband y byddai prisiau ynni yn cael eu rhewi tan 2017 o dan reolaeth y Blaid Lafur, y byddai’r dreth llofftydd yn cael ei diddymu ac y byddai’r isafswm cyflog yn cynyddu.

Diffyg gweithredu

Ond mae Plaid Cymru’n amau’r holl addewidion, gan ddweud bod “gweithredoedd ei ASau Llafur dros y pum mlynedd diwethaf yn siarad cyfrolau”.

Dywedodd llefarydd ar ran Plaid Cymru: “Dro ar ôl tro mae’r Blaid Lafur wedi pleidleisio yn erbyn buddiannau cenedlaethol Cymru, wedi methu grymuso ein Cynulliad Cenedlaethol gyda phwerau a chyfrifoldebau ychwanegol, ac wedi dewis cadw grym yn nwylo elit San Steffan.

“O ran cyllido teg, nid yw pobol Cymru’n haeddu dim llai na chydraddoldeb llawn gyda’r Alban fyddai’n golygu £1.2 biliwn ychwanegol y flwyddyn. Ni wnaeth Mr Miliband unrhyw ymrwymiad y byddai llywodraeth Lafur yn sichrau cydraddoldeb gyda’r Alban.

“Yr unig ymrwymiad mae Mr Miliband wedi ei wneud yw i gadw at gynlluniau gwariant y Toriaid a pharhau a gwleidyddiaeth llymder. Mae Plaid Cymru yn gwrthwynebu hyn yn llwyr.

“Wrth i ddiwrnod yr etholiad agosau, mae’r llinellau gwahanu’n dod yn gliriach. Ar un ochr, sefydliad San Steffan sydd wedi ymrwymo i gadw grym a chynnal dogma llymder, ac ar y llall, Plaid Cymru sydd eisiau grymuso ein cenedl gan olrhain trywydd economaidd newydd yn seiliedig ar fuddsoddiad a chau’r bwlch anghydraddoldeb.”

Mae cynhadledd y Blaid Lafur yn Abertawe yn parhau heddiw.