Dydy pregethwr homoffobig a ddywedodd yn 2007 fod y Ddraig Goch yn ‘Satanaidd’ ddim yn ymgeisydd seneddol UKIP, yn ôl Dirprwy Gadeirydd y Blaid, Suzanne Evans.

Roedd adroddiadau bod George Hargreaves wedi cael ei ddewis i gynrychioli’r blaid yn Ne Coventry, ond dywedodd Evans ar ei chyfrif Twitter nad yw enw Hargreaves ar eu rhestr swyddogol.

Gwnaeth Hargreaves ei sylwadau dadleuol am y Ddraig Goch yn ystod etholiadau’r Cynulliad, gan sefydlu ymgyrch i’w disodli fel baner swyddogol Cymru.

Fe achosodd ffrae yn yr Alban yn ystod yr un flwyddyn, gan honni bod aelod seneddol y Blaid Werdd, Patrick Harvie yn “ymgyrchydd ffwndamentalaidd tros hawliau hoywon”, a bod y ffaith ei fod yn ddeuryw yn “bechod”.

Dywedodd Mark Taylor, y dyn a gafodd ei enwi’n ymgeisydd UKIP yn Ne Coventry cyn cael ei ddisodli gan Hargreaves, wedi dweud ei fod yn siomedig gyda’r penderfyniad.

Ond yn ôl Suzanne Evans, does dim cadarnhad eto pwy fydd yr ymgeisydd ar gyfer y sedd honno.