Llun: AMRI
Fe all 64 o swyddi gael eu colli wrth i ffatri yn Nhreffynnon, Sir y Fflint gau ei drysau.

Mae cwmni Americanaidd Albany Molecular Research Inc (AMRI) wedi cyhoeddi y bydd yn cau ei safle yn Nhreffynnon – ei unig safle ym Mhrydain – am nad oedd wedi llwyddo fel cyswllt rhwng Ewrop ac America.

Wrth ymgynghori gyda gweithwyr y ffatri datblygu cemegau, dywedodd y cwmni ei fod am geisio osgoi gymaint o ddiswyddiadau ag sy’n bosib.

Dywedodd AMRI hefyd nad oedd y ffatri yn Sir y Fflint yn rhan o’i “chyfeiriad strategol newydd” fel cwmni.