Denis a Joyce Drew
Mae’r rheithgor yn achos dynes 21 oed o dde Cymru sy’n cael ei chyhuddo o ladd gŵr a gwraig oedrannus drwy yrru’n beryglus wedi dechrau ystyried eu dyfarniad.

Mae Taylor McDonnell wedi bod yn sefyll ei phrawf yn Llys y Goron Casnewydd ers dechrau’r wythnos, gyda’r erlyniad yn honni nad oedd hi’n canolbwyntio ar y ffordd o’i blaen a’i bod yn sgwrsio  ar ei ffon symudol wrth yrru.

Ond mae Taylor McDonnell yn mynnu bod Denis a Joyce Drew, y ddau’n 86 oed, wedi cerdded i ganol y ffordd ac nad oedd modd iddi eu hosgoi wrth iddi yrru ger Pontir ym mis Tachwedd 2013.

Bu farw Joyce Drew yn Ysbyty Brenhinol Gwent oriau’n unig ar ôl y ddamwain a bu farw Denis Drew chwe diwrnod yn ddiweddarach.

Mae’r ddynes trin gwallt yn cael ei chyhuddo o achosi marwolaeth trwy yrru’n beryglus ond yn gwadu’r cyhuddiadau.