Stephen Vaughan
Roedd y tri dyn fu farw ar ôl i lori wrthdaro yn erbyn cerbydau a cherddwyr ar allt serth yng Nghaerfaddon, yng Ngwlad yr Haf, ddoe, yn dod o dde Cymru, meddai’r heddlu.

Bu farw’r tri dyn, oedd yn 59, 52 a 34 mlwydd, ar ol i’r lori droi drosodd a glanio ar eu car.

Roedd gyrrwr y car, Stephen Vaughan, 34 oed, o Benyrheol, ger Gorseinon, yn Abertawe, yn berchen ar gwmni tacsis Elite Business Travel.

Roedd yn cludo Phil Allen, 52 oed, o Gasllwchwr, Abertawe, a  chyfarwyddwr gyda chwmni trydan Western Power Distribution, yn ei dacsi pan ddigwyddodd y ddamwain.

Roedd y trydydd dyn, oedd yn 59 oed, yn dod o ardal Cwmbran.

Bu farw merch fach pedair blwydd oed yn y ddamwain hefyd. Roedd Mitzi Rosanna Steady o Gaerfaddon yn cerdded gyda’i nain pan gawson nhw eu taro gan y lori.

Bu farw Mitzi Steady a’r tri dyn yn y fan a’r lle toc wedi 4yp bnawn ddoe yn Heol Lansdown, yn Upper Weston, Caerfaddon.

Mae nain y ferch fach yn parhau i fod mewn cyflwr difrifol yn yr ysbyty. Mae dau berson arall, gan gynnwys gyrrwr y lori, hefyd yn yr ysbyty gyda man anafiadau.

Fe wnaeth y lori, a oedd yn cludo graean, wrthdaro â cherddwyr wrth deithio i lawr yr allt serth cyn troi drosodd ar gar y dynion ar waelod yr allt.

Dywedodd y Prif Arolygydd Norman Pascal o Heddlu Avon a Gwlad yr Haf: “Mae hwn yn ddigwyddiad trasig ble mae tri dyn a merch ifanc wedi colli eu bywydau, ac rydym yn cynnal ymchwiliad llawn a manwl i gael gwybod beth ddigwyddodd.”

Mae teuluoedd y rhai fu farw yn cael cymorth gan swyddogion cyswllt teulu arbenigol.