Mae Carwyn Jones wedi croesawu'r cyhoeddiad
Mae cwmni amlwg yn y diwydiant niwclear wedi penderfynu ehangu i ganolfan yng ngogledd Cymru gan greu 36 o swyddi.
Mae James Fisher Nuclear (JFN) wedi dewis ail-leoli i safle mwy ym Mharc Diwydiannol Glannau Dyfrdwy, gyda chymorth ariannol gan Lywodraeth Cymru.
Fe fydd y cwmni yn buddsoddi £1.5 miliwn mewn adeiladau ac offer newydd a bydd y Llywodraeth yn ychwanegu £149,200 at hynny.
Mae’r cyhoeddiad yn golygu y bydd 100 o bobol ar y cyfan yn cael eu cyflogi gan y cwmni o fewn Ardal Fenter Glannau Dyfrdwy.
Catalydd
“Roedd Cymru yn cystadlu â safle arall ar gyfer y buddsoddiad hwn, ac rwy’n falch iawn y bydd yn digwydd yma,” meddai’r Prif Weinidog Carwyn Jones wrth ymweld â safle presennol y cwmni.
“Mae’n bosib y bydd y penderfyniad i ehangu yng Nghymru yn gweithredu fel catalydd i ddenu rhagor o fuddsoddiadau gan gwmnïau sydd â diddordeb yn y cyfleoedd y mae’r sector niwclear yn eu cynnig i Gymru.
Ychwanegodd Dr Paul Read, Rheolwr-gyfarwyddwr JFN: “Mae ein Gwasanaeth Calibro Ymbelydredd sydd wedi ennill gwobrau, ac sy’n cynorthwyo cwsmeriaid ledled y wlad, wedi’i leoli eisoes ar Ystâd Ddiwydiannol Glannau Dyfrdwy.
“Mae’r ganolfan newydd hon yn rhoi llawer mwy o le ar gyfer ein hisadran profion annistrywiol i helpu ein cwsmeriaid presennol ac i ehangu ein sylfaen cwsmeriaid. Mae hefyd mewn sefyllfa dda i gynorthwyo cwsmeriaid awyrofod ym Mrychdyn a phwerdai newydd yng Nghymru.”
Mae gan JFN sylfaen gwsmeriaid sy’n cynnwys Airbus, Magnox, Awdurdod Dadgomisiynu Niwclear, Tritech, Williams Lee (Bentley), Rolls Royce, Toyota a Jaguar Land Rover.