Mae ffigyrau ddaeth i law’r Democratiaid Rhyddfrydol yng Nghymru wedi dangos bod gwariant Gwasanaeth Iechyd Cymru (GIG) ar nyrsys asiantaeth, sy’n cael eu galw i weithio pan fo lefelau staffio ysbytai yn isel, wedi dyblu yn y flwyddyn ddiwetha’.
Cafodd y wybodaeth ei gyhoeddi yn sgil Cais Rhyddid Gwybodaeth gan y blaid, a ddangosodd bod £60 miliwn wedi cael ei wario ar gyflogi’r nyrsys annibynnol ers 2011.
Yn 2013, fe wnaeth y GIG wario £12 miliwn ar nyrsys asiantaeth ond y llynedd fe neidiodd hynny i dros £23 miliwn, yn ôl y Democratiaid Rhyddfrydol.
Mae arweinydd y blaid yng Nghymru, Kirsty Williams, wedi dweud ei bod “wedi’i rhyfeddu” bod gymaint o arian yn cael ei wario ar gyflogi nyrsys annibynnol.
Gweledigaeth fyrdymor
“Fe allai’r arian yma fod wedi’i ddefnyddio i gyflogi 2,400 o nyrsys ychwanegol llawn amser yn ein gwasanaeth iechyd,” meddai Kirsty Williams.
“Mae gweledigaeth mor fyrdymor yn aml yn arwain at lefelau staffio isel iawn o fewn y GIG. Nid yw hyn yn gynaliadwy o gwbl.
Gwariant
Dyma’r arian sydd wedi cael ei wario ar gyflogi nyrsys asiantaeth ers 2011-10:
- Bwrdd Iechyd Abertawe Bro Morgannwg – £12,660,754
- Bwrdd Iechyd Aneurin Bevan – £16,769,000
- Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr – £10,141,000
- Bwrdd Iechyd Caerdydd a’r Fro – £4,216,000
- Bwrdd Iechyd Hywel Dda – £5,890,826
- Bwrdd Iechyd Powys – £95,742
‘Pwysau recriwtio’
Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: “Rydym ni yn cystadlu yn y farchnad fyd-eang ar gyfer nyrsys ac mae pwysau recriwtio ar draws y DU, nid yn unig yng Nghymru.
“Oherwydd hyn, rydym yn parhau i gymryd camau i recriwtio ac ailhyfforddi, gan gynnwys ei gwneud yn haws i nyrsys sydd wedi gadael y proffesiwn i ailhyfforddi ac ailymuno a GIG Cymru.
“Roedd y swm a wariwyd ar nyrsys asiantaeth yn fach yng nghyd-destun y £6 biliwn rydym yn buddsoddi yn GIG Cymru bob blwyddyn, ond mae’n bwysig bod byrddau iechyd yn parhau i wario’r arian yma’n ofalus a chymryd camau i recriwtio fel sydd angen.”