Alun Ffred Jones yw Cadeirydd y pwyllgor dan sylw
Mae un o bwyllgorau’r Cynulliad wedi cefnogi galwadau ymgyrchwyr iaith ar i’r iaith Gymraeg fod yn ganolog i’r Mesur Cynllunio.

Er bod yna gefnogaeth frwd ar gyfer diwygio’r system gynllunio yng Nghymru, ni ddylai’r broses fod yn un llai democrataidd er mwyn sicrhau mwy o gysondeb wrth wneud penderfyniadau cynllunio, meddai’r pwyllgor.

Bu aelodau Pwyllgor Amgylchedd a Chynaladwyedd y Cynulliad yn trafod pryderon ynglŷn â diwygio’r Mesur – sy’n cynnwys cymhlethu’r system a symud y pŵer i wneud penderfyniadau yn rhy bell i ffwrdd oddi wrth gymunedau a gwleidyddion lleol.

Wrth wraidd eu trafodaethau oedd ffyrdd o gryfhau’r Gymraeg o fewn y system a sut i gynnwys cymunedau lleol yn y broses o baratoi pob Cynllun Datblygu Lleol.

Mae Cymdeithas yr Iaith Gymraeg wedi croesawu’r adroddiad yn wresog.

Argymhellion

Mae’r Pwyllgor yn argymell y dylai’r Gweinidog Cynllunio gyflwyno gwelliannau, er mwyn gosod gofyniad ar y rhai sy’n llunio Cynlluniau Datblygu Lleol i gynnal asesiad o’u heffaith ar y Gymraeg.

Dywedodd aelodau hefyd y dylai Comisiynydd y Gymraeg gael rôl ffurfiol mewn asesu ansawdd yr asesiadau effaith ieithyddol ar gyfer Cynlluniau Datblygu Lleol a cheisiadau cynllunio mawr.

“Er bod cefnogaeth eang i wella effeithlonrwydd a chysondeb y system gynllunio yng Nghymru, mae’n bwysig nad yw’r diwygiadau hyn yn ei gwneud yn broses llai democrataidd,” meddai Alun Ffred Jones AC, Cadeirydd y Pwyllgor Amgylchedd a Chynaliadwyedd.

“Drwy gydol yr adroddiad hwn, rydym wedi gwneud argymhellion sydd, ar y cyd, yn ceisio gwneud darpariaethau’r Bil hwn yn fwy democrataidd. Rydym ni’n credu y byddai gweithredu’r argymhellion hyn yn mynd i’r afael â phryderon y bydd y ddeddfwriaeth hon yn creu ‘diffyg democrataidd’, wrth sicrhau bod effeithlonrwydd a chysondeb y system yn gwella”.

Ystyried herio

Wrth groesawu’r adroddiad, dywedodd Tamsin Davies, llefarydd cymunedau cynaliadwy Cymdeithas yr Iaith Gymraeg:

“Rydyn ni’n croesawu’r adroddiad yn fawr iawn, yn enwedig ei gefnogaeth i roi’r Gymraeg yn ganolog i’r system ac i rymuso ein cymunedau.

“Rydyn ni nawr yn disgwyl i’r Llywodraeth dderbyn yr argymhellion, a fyddai’n gwneud y system gynllunio’n fwy cynaliadwy. Os nad ydy’r Llywodraeth yn gwrando, mi fyddwn ni’n ystyried herio’r Bil yn y llysoedd.”