Dr Dai Lloyd
Wrth i gyngor Abertawe ystyried gwerthu ei Ganolfan Ddinesig, mae Plaid Cymru wedi codi amheuon ynglŷn â’r cynllun gan ddweud bod risg o “golli ased cyhoeddus gwerthfawr”.

Cyhoeddodd Cyngor Abertawe’r wythnos diwethaf y gall y ganolfan  gael ei gwerthu fel rhan o becyn i adfywio canol y ddinas.

Yn ei lle byddai canolfan newydd yn cael ei chodi ar y Kingsway ynghyd a sinema, siopau, bwytai a llety.

Ond heb gynllun manwl ac asesiad trylwyr o’i gostau, mae’r Cyngor yn rhedeg y risg o golli ased cyhoeddus gwerthfawr heb fawr o elw go iawn, meddai darpar ymgeisydd Cynulliad y Blaid dros Orllewin Abertawe, Dr Dai Lloyd.

Annoeth

Yn ogystal â cholli ased, mae Dai Lloyd yn dweud y byddai’n annoeth i symud staff sy’n gweithio yn yr adeilad nes bod mwy o fanylion yn cael eu cyhoeddi ynglŷn â’r ad-drefnu llywodraeth leol gan Lywodraeth Cymru.

“Mae nifer o ganlyniadau posibl, gan gynnwys uno gyda chynghorau cyfagos, wedi cael eu hawgrymu,” meddai Dai Lloyd wrth Arweinydd y Cyngor Abertawe, Rob Stewart.

“Ond prin fod siambr Neuadd y Dref yn ddigonol ar gyfer Cyngor Abertawe , heb sôn am gyngor mwy o faint yn y dyfodol, a’r perygl yw y gallai Abertawe gael ei diystyru fel y lleoliad ar gyfer pencadlys newydd.”

Fe allai’r newidiadau sydd ar y gweill i’r sector addysg uwch yn Abertawe hefyd olygu y bydd nifer o adeiladau mawr yn dod yn wag ar draws y ddinas, yn ôl Dai Lloyd.

Nid oedd Cyngor Abertawe wedi mynegi diddordeb mewn uno gyda chyngor cyfagos o dan argymhellion Comisiwn Williams.