Cafodd y cwest ei gynnal yn Neuadd y Dref, Aberdaugleddau
Mae cwest wedi clywed fod bachgen wyth oed o Sir Benfro wedi marw o’r sgyrfi, afiechyd prin sy’n cael ei achosi gan ddiffyg Fitamin C.

Bu farw Dylan Mungo Seabridge yn ei gartref ym mhentref Eglwyswrw yng ngogledd Sir Benfro ar 6 Ragfyr 2011 ac fe gafodd cwest i’w farwolaeth ei gynnal yn Aberdaugleddau heddiw.

Dywedodd y crwner, Mark Layton, bod y bachgen wedi marw o’r sgyrfi ac fe gofnodwyd rheithfarn agored.

Roedd rhieni Dylan, Julie Seabridge, 46, a’i gwr Glynn, 47, yn wynebu achos llys yn ymwneud ag esgeuluso plentyn, ond fe gyhoeddodd Gwasanaeth Erlyn y Goron  y llynedd na fyddai camau pellach yn cael eu cymryd yn erbyn y ddau.

Dywedodd yr erlynydd nad oedd Julie Seabridge yn ddigon iach i sefyll ei phrawf ac “nad oedd er budd y cyhoedd” i ddwyn achos yn erbyn Glynn Seabridge.