Archwilydd Cyffredinol Cymru, Huw Vaughan Thomas
Mae adroddiad sy’n cael ei gyhoeddi heddiw yn datgan bod y ffordd mae’r Gwasanaeth Iechyd yn ymdrin â cheisiadau am ad-daliad ffioedd cartrefi gofal yn “destun pryder”.
Daw’r adroddiad gan Archwilydd Cyffredinol Cymru yn dilyn adroddiad arall ar yr un pwnc o 2013 ac mae’n dangos bod angen i’r Llywodraeth roi mwy o gyngor i fyrddau iechyd ar sut i ddarparu agweddau o gynllun Gofal Iechyd Parhaus – sef y gofal sy’n cael ei roi i bobol gydag anghenion gofal sylfaenol.
Dywedodd yr adroddiad bod ymateb cadarnhaol wedi bod gan Lywodraeth Cymru i nifer o’r argymhellion a wnaed yn yr adroddiad blaenorol.
Er hyn, mae’r dull o glirio hawliadau ôl-weithredol ar gyfer Gofal Iechyd Parhaus y GIG yn destun pryder o hyd, yn ôl yr Archwilydd.
Rôl gryfach
Daw’r adroddiad i’r casgliad bod angen i Lywodraeth Cymru ymgymryd â rôl gryfach a rhoi mwy o gyfarwyddyd i fyrddau iechyd er mwyn gwella a chyflawni’r gwaith o brosesu hawliadau o fewn y terfyn amser.
Mae Llywodraeth Cymru wedi derbyn y prif bryderon yn yr adroddiad gan ddweud y bydd yn mynd i’r afael â nhw.
“Mae adroddiad dilynol heddiw’n dangos y bu rhai llwyddiannau ond mae gwaith i’w wneud o hyd er mwyn sicrhau newid sylweddol yn y ffordd y mae rhai byrddau iechyd yn ymdrin â hawliadau ôl-weithredol,” meddai’r Archwilydd Cyffredinol, Huw Vaughan Thomas.
“Rhaid i Lywodraeth Cymru atgyfnerthu ei rôl wrth reoli Gofal Iechyd Parhaus y GIG er mwyn sicrhau yr ymdrinnir â hawliadau mor gyflyn ac effeithlon â phosibl.”
Sylw brys
Ychwanegodd Darren Millar AC, Cadeirydd Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus y Cynulliad Cenedlaethol: “Mae croeso i’r cynnydd a wnaed wrth ymdrin â llawer o’r materion yn ein hadroddiad yn 2013, fodd bynnag, nid yw perfformiad rhai byrddau iechyd wrth ymdrin ag ôl-hawliadau yn dderbyniol ac mae angen rhoi sylw i hyn ar unwaith er mwyn sicrhau bod pobol yn cael ymateb yn brydlon ac yn rhesymol.”