Fe fydd system newydd o raddio ysgolion yng Nghymru yn dod i rym heddiw, gyda phob ysgol yn cael ei rhoi mewn categori lliw.

Mae’r mesur newydd yn cymryd lle’r system fandio ddadleuol ac am y tro cyntaf fe fydd ysgolion cynradd ac uwchradd yn cael eu graddio.

Y bwriad, meddai’r Gweinidog Addysg Huw Lewis, yw gwella perfformiad a safonau mewn ysgolion.

Bydd pwyslais ar wella perfformiad disgyblion sy’n gymwys i gael prydau bwyd ysgol am ddim ond mae ’na bryderon y bydd hyn yn golygu bod ysgolion mewn ardaloedd difreintiedig yn cael eu cosbi.

Bydd yr ysgolion yn cael eu rhoi mewn categori lliw – gwyrdd sy’n perfformio orau, melyn yn dda, oren sydd angen gwella ac ysgolion coch sydd angen y gwelliant mwyaf –  ac yn cael eu hasesu dros gyfnod o dair blynedd yn lle un.

Cefnogaeth

Dywedodd y Gweinidog Addysg Huw Lewis: “Mae canlyniadau’r system gategoreiddio yn darparu gwybodaeth ddefnyddiol dros ben ynglŷn â sut mae ysgolion ledled Cymru yn perfformio.

“Maen nhw hefyd yn ein galluogi, mewn partneriaeth ag awdurdodau lleol, i roi’r gefnogaeth a’r adnoddau i’r ysgolion sydd eu hangen fwyaf.

“Wrth galon y system gategoreiddio mae fy mwriad i wella perfformiad ar gyfer disgyblion mewn ardaloedd difreintiedig – dyna pam na all unrhyw ysgol uwchradd gyrraedd y categori gwyrdd uchaf os nad ydyn nhw’n darparu ar gyfer y disgyblion sy’n cael cinio am ddim.

Canlyniadau

O’r 1332 o ysgolion cynradd gafodd eu hasesu, mae 206 wedi cael eu rhoi yn y categori gwyrdd a 58 yn y categori coch.

O’r 211 o ysgolion uwchradd gafodd eu hasesu, mae 30 yn y categori gwyrdd ac mae 23 yn y categori coch.

‘Dim gwell na bandio’

Ond yn ôl Cymdeithas Genedlaethol y Prifathrawon (NAHT) nid yw’r system raddio newydd fawr gwell na’r hen system fandio.

Dywedodd cyfarwyddwr NAHT Cymru,  Dr Chris Howard: “Fe fydd y system gategoreiddio newydd yn cynddeiriogi nifer o ysgolion yng Nghymru mewn cyfnod pan ddylai’r Gweinidog fod yn cydnabod y gwaith caled sydd wedi cael ei wneud i godi safonau.

“Ni fydd yn gwneud dim i annog ysgolion ac athrawon sy’n gweithio yn y cymunedau mwyaf heriol.

“Roedd y system gategoreiddio i fod i ddangos pa ysgolion oed angen cymorth. Ni fydd yn cael ei weld fel hyn. Fe fydd yn stigmateiddio ysgolion a’r staff proffesiynol sy’n gweithio ynddyn nhw.

“Rydyn ni wedi cael addewid y bydd trafodaethau pellach ond mae’n haelodau yn dweud nad oes llawer o bwynt os nad yw’r cyngor rydym ni’n ei roi yn cael ei gymryd i ystyriaeth.”

Fe fydd y system gategoreiddio yn dod i rym am 3yp heddiw.