Alan Raymant, Prif Swyddog Gweithredu Pŵer Niwclear Horizon; a'r Athro John G Hughes, Is-ganghellor Prifysgol Bangor
Mae Prifysgol Bangor a chwmni ynni Horizon wedi dod i gytundeb a allai olygu bod arbenigedd ac ymchwil myfyrwyr yn cael ei ddefnyddio ar gyfer prosiect Wylfa Newydd.

Bydd y memorandwm newydd yn golygu rhagor o gydweithio rhwng y ddau sefydliad yn ystod y blynyddoedd nesaf.

Fe fu’r brifysgol yn cyfarfod â Horizon yn rheolaidd er mwyn i’r cwmni ddysgu am yr ymchwil sy’n cael ei wneud gan arbenigwyr, a allai helpu myfyrwyr ymchwil y brifysgol yn y dyfodol.

Dyma’r tro cyntaf i Horizon gydweithio â sefydliad addysg uwch yng Nghymru.

Fe allai’r cytundeb arwain at gyfleoedd profiad gwaith i’r myfyrwyr, cefnogaeth ar gyfer myfyrwyr ymchwil a chydweithio ar weithgareddau i godi ymwybyddiaeth o fanteision gwyddoniaeth, technoleg, peirianneg a mathemateg (STEM).

Mewn datganiad, dywedodd prif swyddog gweithredol Horizon, Alan Raymant: “Mae’r cytundeb hwn yn datblygu ein hymrwymiad parhaus i gefnogi datblygiad sgiliau a hyfforddiant yng ngogledd Cymru, gan greu cyfleoedd gwaith mwy hirdymor i bobol ifanc y rhanbarth.”

Dywedodd Is-Ganghellor Prifysgol Bangor, John G Hughes: “O gofio graddfa anferth y buddsoddiad gan Horizon yn Wylfa Newydd i greu cyfleuster sy’n debygol o weithredu am nifer o ddegawdau, mae arwyddo’r Memorandwm Dealltwriaeth hwn yn foment arwyddocaol i’r ddau sefydliad.”