Llys y Goron, Yr Wyddgrug
Mae cynghorydd sir o Wynedd wedi ymddangos yn Llys y Goron, Yr Wyddgrug, gan wadu cyhuddiad o flacmelio dyn busnes.

Mae’r cyhuddiadau yn erbyn Christopher James O’Neal, 36 oed, yn honni iddo fynnu £7,500 ar Ragfyr 27, 2013.

Plediodd y cynghorydd Annibynnol o Lanfairpwllgwyngyll, sy’n cynrychioli ward Marchog yn ninas Bangor, yn ddieuog.

Mae Christopher James O’Neal wedi’i ryddhau ar fechnïaeth nes bydd yr achos yn cael ei gynnal ym mis Mehefin.