Mae pleidlais o ddiffyg hyder wedi cael ei phasio ym mwrdd llywodraethu Coleg y Cymoedd, wedi i aelodau gymeradwyo codiad cyflog o 46% i bennaeth y Coleg a chynnig talu mwy i weddill yr Uwch Dîm Rheoli.
Roedd 138 o aelodau Undeb Prifysgolion a Cholegau (UCU) yng Ngholeg y Cymoedd wedi cefnogi’r bleidlais yn unfrydol.
Yn wreiddiol, ni chafodd gweddill staff y coleg gynnig codiad cyflog ar gyfer 2014/15 ond fe gododd hyn i 1% yn dilyn protest.
Dywedodd yr undeb bod staff Coleg y Cymoedd hefyd wedi cael eu hysbysu am benderfyniad i leihau costau staff a bod y rheolwyr eisoes wedi galw am ddiswyddiadau gwirfoddol, gydag ofnau ynglŷn â diswyddiadau gorfodol.
Mae’r penderfyniad i godi cyflog y pennaeth Judith Evans o bron i 50% yn “annerbyniol” o ystyried yr heriau hyn, meddai’r undeb.
‘Cynddeiriog’
Mewn datganiad, dywedodd yr undeb: “Mae teimladau’r gangen yn amlwg; mae staff yn ddig ac yn awyddus i anfon neges i’r rhai sy’n gyfrifol am arwain a llywodraethu Coleg y Cymoedd na ellir ymdrin â’r staff ffyddlon a gweithgar mewn modd dilornus. Maen nhw’n asedau gwirioneddol i’w dysgwyr, cymunedau a’r economi lleol.”
Ychwanegodd Guy Stoate, cadeirydd cangen UCU yng Ngholeg y Cymoedd a thrafodwr UCU Cymru:
“Yn y cyfarfod roedd staff yn gynddeiriog o glywed bod y pennaeth wedi cael codiad cyflog enfawr.
“Roedd yr aelodau yn gynddeiriog bod y llywodraethwyr wedi cytuno hyn ar adeg pan mae’r gweddill ohonom yn wynebu diswyddiadau posibl. “