Trenau First Great Western
Mae cwmni teithio FirstGroup wedi dweud heddiw na fydd ei gwsmeriaid yn gweld gostyngiad ym mhrisiau tocynnau, er y cwymp diweddar ym mhrisiau petrol.

Dywedodd y cwmni ei fod wedi ymrwymo i bolisi i brynu petrol am brisiau uwch tan y flwyddyn nesaf ac y byddai prisiau ei docynnau yn parhau i godi gyda chwyddiant.

Mae pencadlys FirstGroup yn Aberdeen, ac un o deithiau mwyaf poblogaidd y cwmni yw ei siwrne tren Great Western o Lundain i Dde Cymru.

Mae ynghanol trafodaethau gyda’r Adran Drafnidiaeth ar hyn o bryd dros ymestyn y cytundeb gyda Great Western i o leiaf fis Mawrth 2019.