Mae ffordd osgoi Y Waun ger Wrecsam yn parhau i fod ynghau heddiw, wedi damwain ffordd ar yr A5 ddoe.

Fe wnaeth tractor daro’r rhwystrau ar ochr y ffordd yn dilyn y ddamwain rhwng y cerbyd a dau gar arall am tua 2:00 y prynhawn.

Cafodd gyrrwr car ei gludo i’r ysbyty yn dilyn y ddamwain, meddai llefarydd o Heddlu Gogledd Cymru.

Mae traffig yn cael ei ddargyfeirio ar y B5070, trwy bentref Y Waun wrth i waith gael ei wneud i drwsio’r bont.
Mae Heddlu’r Gogledd yn gofyn i yrwyr adael amser ychwanegol i deithio yn yr ardal.