Cyngor Ceredigion
Mae adroddiad ar sefyllfa addysg yng Ngheredigion yn awgrymu cau dwy ysgol gynradd ac agor ysgol 3-19 oed yn y sir.

Yn ôl yr adroddiad, dylid cau ysgolion Llangynfelyn a Chwm Padarn, ac agor ysgol newydd ar safle presennol Ysgol Gyfun Penweddig.

Dywed awdur yr adroddiad, Alun Morgan nad oes modd cynnal y sefyllfa fel y mae hi ar hyn o bryd, ac y bydd traean o ysgolion y sir o dan eu capasiti erbyn 2019.

Mae disgwyl i’r Cyngor Sir drafod yr argymhellion yr wythnos nesaf.