Rhaid targedu’r arian ar gyfer prosiectau bwyd a ffermio yng Nghymru yn ofalus yn y dyfodol er mwyn i’r diwydiant gael y budd mwyaf posibl.
Dyna fydd neges Dai Davies, Cadeirydd Hybu Cig Cymru (HCC), wrth iddo siarad ym Mae Caerdydd heddiw.
Mae’r cadeirydd o’r farn bod digon o dystiolaeth i ddangos bod cwmnïau bwyd yn awyddus i gyd-weithio a gwneud yn siŵr fod Cymru’n arwain y ffordd gyda thechnolegau a thechnegau newydd.
Mae disgwyl iddo ddweud: “Credaf fod eleni’n flwyddyn o gyfle i bawb sy’n ymwneud â’r diwydiant yng Nghymru.
“Cynhyrchu bwyd yw conglfaen economi Cymru; mae’n werth dros £5.7 biliwn y flwyddyn.
“Ond mae yna bosibiliadau gwych i wella fwyfwy ei gyfraniad i economi Cymru a chreu mwy o swyddi a mwy o gyfoeth.”
Mae HCC ar hyn o bryd yn paratoi Cynllun Gweithredu Strategol ar gyfer y sector Cig Coch yng Nghymru.