Ann Keane, prif arolygydd Estyn
Nid yw safon llythrennedd yn ysgolion uwchradd Cymru wedi gwella ers 2012, meddai Prif Arolygydd Estyn yn adroddiad diweddaraf y corff adolygu.
Yn ôl Ann Keane, mae gwella safon llythrennedd “yn her o hyd” ac mae angen i bob ysgol fu’n rhan o’r arolwg roi blaenoriaeth i’r maes.
Fodd bynnag, fe ddywedodd bod rhywfaint o gynnydd wedi bod wrth weithredu’r rhaglen Fframwaith Llythrennedd a Rhifedd ac ymwybyddiaeth athrawon o’r angen i ddatblygu sgiliau wedi codi.
Yn rhan o’r argymhellion, mae Estyn wedi awgrymu y dylai Llywodraeth Cymru ddarparu deunyddiau cymorth ac enghreifftiau o safonau i ysgolion ynghyd ag “arweiniad clir a hwylus”.
Safonau ‘ddim yn glir’
Cafodd y fframwaith dan sylw ei gyflwyno i bob ysgol yng Nghymru ym mis Medi 2013 ac mae’n cynnwys profion darllen a rhifedd cenedlaethol i ddisgyblion.
Yn adroddiad Estyn, fe ddaeth i’r amlwg nad oedd yr athrawon yn yr ysgolion a gafodd ymweliadau yn gwbl glir o hyd ynglŷn â’r safonau llythrennedd a ddisgwylir ar draws y cwricwlwm.
Fe wnaeth Estyn restru nifer o resymau dros hyn, gan gynnwys y cyfnod arweiniol byr a roddwyd ac anawsterau o ran cael cymorth a hyfforddiant.
“Mae safonau llythrennedd disgyblion yr un fath â’r safonau yn adroddiad gwaelodlin 2012,” meddai Ann Keane.
“Fodd bynnag, mae ansawdd y cynllunio wedi gwella ac mae gwell cyfleoedd i wella safonau ymhellach wrth i ysgolion droi at weithredu’r Fframwaith Llythrennedd a Rhifedd yn llawnach. Ond er gwaethaf y gwelliannau mae gwella llythrennedd yn her o hyd.
“Mae angen i lythrennedd barhau’n brif flaenoriaeth i ysgolion fel y gall ddisgyblion gymhwyso’u medrau i bynciau ar draws y cwricwlwm a chyflawni eu potensial llawn.”